Join us on FacebookJoin us on Facebook Welsh language versionWelsh flag icon

Snowslippers Logo

Ski holidays for schools, universities and adult groups

rough top image
rough bottom image
Chairlifts
rough top image

Snowslippers gwyliau sgio i ysgolion

Mae Snowslippers yn gwmni sy’n arbenigo yn nhrefnu gwyliau sgïo ac eira-fyrddio i ysgolion, prifysgolion a grwpiau o oedolion. ‘Rydym wedi bod yn trefnu gwyliai i ysgolion am dros ddegawd, ac mae nifer o’n cwsmeriaid gwreiddiol o’r nawdegau cynnar yn dal i deithio gyda ni. Yn wir, mae pob ysgol a ddaeth gyda ni yn ein tymor cyntaf yn dal i ddod, 15 mlynedd yn ddiweddarach.

rough bottom image

Cefndir

Ffurfiwyd y cwmni gan ddau gyn athro a oedd yn ymwybodol o’r anawsterau a’r trafferthion sy’n ymwneud â threfnu taith sgïo. Erbyn hyn, mae gan Snowslippers dîm o bobl â phrofiad mewn dysgu, mynydda, hyfforddi sgïo ac wrth gwrs, trefnu teithiau i grwpiau. Eu bwriad oedd dileu’r pwysedd sy’n ynghlwm â chynllunio, trefnu a gweithredu taith o’r fath.

Bu’r cynydd a’r twf yn y cwmni yn araf ar y dechrau, a hynny’n fwriadol. ‘Roedd yn bwysicach i sicrhau bod y safon uchel ‘roeddem am ei gynnig, a’r cwsmeriadid cyntaf yn disgwyl a’i haeddu, o’r radd flaenaf. ‘Roedd safonnau gwasanaeth cwsmeriaid, trefniadaeth, iechyd a diogelwch ac wrth gwrs, hwyl, yn bwysicach nag ehangu’n gyflym. Mae’r egwyddor yma yn bodoli o hyd, er bod y nifer o grwpiau sy’n clywed amdanom ar lafar ac sydd am i ni drefnu eu trip nhw, yn cynyddu o hyd. Mae nifer o’r rhain nawr yn gwsmeriaid rheolaidd i ni.

Cwsmeriaid Eraill

Yn ddiweddar, ‘rydym wedi arallgyfeirio rhywfaint. Mae nifer o brifysgolion yn dod nôl atom blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae grwpiau canolfan ffitrwydd yn defnyddio’r gwasanaeth, a hefyd grwpiau o ffrindiau sydd am wythnos o weithgaredd sy’n llawn hwyl, yn heriol, a’r cyfan am brys cystadleuol. Mae ein gwêfan yn adlewyrch natur wreiddiol y cwmni yn bennaf, h.y. gwasanaeth i ysgolion, ond gobeithio bod y naws y ceisiwn greu am Snowslippers yn dangos efallai bod rhywbeth gyda ni i gynnig i chi os ydych yn dymuno ymweld â’r rhan yma o’r Alpau.

Yr ardal

‘Rydym yn defnyddio’r un cyrchfannoedd ers 15 mlynedd ac wedi sefydlu perthynas agos iawn gyda’r bobl leol sy’n dibynnu gymaint ar y diwydiant twristiaeth am eu bywoliaeth.

Mae Salzburg, lle geni Amadeus Mozart, yn ganolbwynt i’r rhanbarth sgïo mwyaf yn Ewrop. Canolbwynt gweithgareddau Snowslippers yw St Johann im Pongau ac yn enwedig y pentref prydferth lle lleolir y lifft cyntaf, sef Alpendorf. Mae Alpendorf yn ddechreuad i’r rhanbarth gyfan sy’n cynnwys 276 o lifftiau a 550 milltir o lethrau amrywiol. Mae digonedd o le i’r dechreuwr mwyaf nerfus a digonedd o ehangder i’r sgïwr/eirafyrddiwr mwyaf profiadol. Enw’r rhanbarth yw ‘Ski Alliance Amade’.

Gwestai

Mae’r llety a gynnigir mewn gwestai traddodiadol ar delerau gwely, brecwast a chinio hwyr tri chwrs. Eto mae Snowslippers wedi delio gyda’r teuluoedd sydd berchen y gwestai ers degawd ac wedi sefydlu, ac yn meithryn perthynas agos iawn gyda nhw. Pawb, Snowslippers, yr ysgol sgïo leol, y gwestai a’r bobl leol, gyda’r un nôd o sicrhau bod yr wythnos yn un fythgofiadwy.

Mae Snowslippers yn mynnu cynnig gwasanaeth bersonol i bawb. Heblaw am eu cynrychiolydd a fydd gyda phob grwp bob bore wrth gyrraedd y lifft cyntaf a gyda gweithgareddau’r hwyr, mae’r perchnogion yn bresennol drwy gydol eich ymweliad i sicrhau bod pawb a phopeth o’r safon uchaf posib. Mae’r teithiau 9 niwrnod wedi eu cynllunio i fod yn orlawn, heb amser i ymlacio, os mae dyna’ch dymuniad.

Mae’r pris yn cynnwys

  • Taith ar fws moethus o Brydain i Awstria.
  • Defnydd o’r bws o gwmpas yr ardal.
  • Croesi o Dover i Calais naill ai ar fferi P&O neu drwy’r twnel.
  • Llety am 6 noswaith mewn gwesty traddodiadol.
  • Brecwast cyfandirol.
  • Cino hwyr tri chwrs.
  • Llogi sgïau/eira-fyrddiau am 6 niwrnod.
  • Llogi esgidiau sgïo am 6 niwrnod.
  • Gwersi sgïo/eira-fyrddio am 4 awr bob dydd am 6 niwrnod.
  • Cymorth cynrychiolydd Snowslippers bob bore a gyda gweithgareddau’r hwyr.
  • Medalau, tystysgrifau a thlysau.
  • Ymweliadau siopa i naill ai St. Johann, Zell am Zee neu Salzburg.
  • Gweithgareddau’r hwyr.
  • Rydym yn cynnig gostyngiad sylweddol i aelodau teulu’r trefnydd.

Hefyd, i ysgolion, cynigir un lle am ddim am bob 8 sy’n talu’n llawn.

Cliciwch yma am mwy o fanglion.

snowflake iconTestimonials

Bysiau gwych, gyrrwyr cymwynasgar, gewstai cyfeillgar, hyfforddiant arbennig, gwersi drwy'r dydd, ardal hyfryd, llethrau di-ddiwedd, lifftiau i gyd ar agor -Rhagfyr, Chwefror neu Pasg, gweithwyr lleol hynaws, canolfan gyfleus i weithgareddau hwyr, dewis o siopa, hyd yn oed ysbyty yn agos, a chyfarwyddwyr y cwmni wrth law i ddatrys unrhyw broblem. Y cyfan am bris hynod o gystadleuol. Gobeithio byddai'n ymddeol cyn nhw!

snowflake iconEnquire Online

or call
07837 093 989